Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'i wyneb hardd glân," i fynd i dŷ ei thad dros y ffordd,—

"Ac Iorwerth mewn syndod, petrusder, a braw,
Ufuddhaodd i'r llances fonheddig;
Aeth gyda hi ymaith, a ffon yn ei law,
Trwy y glyn tua'r palas mawreddig."

Yna daeth llais peraidd mwyn i alw am Risiart Ddu o Wynedd a Rhydderch o Fôn. Pan ddaeth cnoc am Greuddynfab, a chyn gwysio Glasynys, collodd Talhaearn ei amynedd, a dywedodd yr ai ar ol y llances ohono ei hun. Merch brenin Angeu oedd hi.

Dilynodd dau arall adwaenwn i yr un llwybr tywyll ymhell cyn gweld cymaint o'r byd na phrofi cymaint o'i fwyniant a Thalhaearn. Y naill oedd Charles Ashton yn unigedd mynyddoedd Mawddwy, a'r llall oedd T. Evan Jacob yn unigedd torfeydd Llundain. Yr oedd Jacob yn un o'r bechgyn disglair roddwyd i'r byd gan Goleg Prifysgol Cymru yn ei flynyddoedd cyntaf. Yr oedd yn llenor campus yn Gymraeg a Saesneg, yr oedd ei galon yn lân a chynnes er ei ffyrdd troiog, a gwyn fyd na fuasai rhywun wedi cydio yn ei law i'w arwain i lwybr wrth ei fodd. Collais i'r cyfleustra, ac y mae hynny'n boen i mi byth. Y mae beirdd eraill wedi syllu'n ofnus ar yr un llwybr trwy'r nos, ac y mae un wedi ei ddisgrifio ar gân. Dywedodd meddyg wrthyf fod y bardd hwnnw'n dioddef oddiwrth boen arteithiol ystyrrid y pryd hynny'n anfeddyginiaethol. Druain o'r beirdd, yn ddigon aml,—

"They learn in Borrow what they teach in Bong."