Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llew Llwyfo, Scorpion, Dr. Llugwy Owen, a Dr. Rees Abertawe.

Pan tua'r trigain, teimla dyn fod ganddo hawl i siarad â'r byd fel byd o bobl iau nag ef. Tua'r oed hwnnw safai Dafydd Ddu Eryri, yn hen cyn ei amser, o flaen torf Eisteddfod Caernarfon, ym Medi 1821, a diweddai ei anerchiad,—

"Wel bellach mewn hoewach hwyl,
Dirionwych frodyr anwyl,
Cenwch eich gwaith mewn cynnydd,
A mwynlan, diddan, bo'r dydd;
Minnau'n hen mewn anhunedd,
Yma'n byw ym min y bedd,
Gwyro mae fy moel goryn
Ar lawr gallt dan y gwallt gwyn;
Daw ereill Feirdd awdurol
Yn fuan, fuan ar f'ol :
Delom uwch eur, lafur loes
I'r lån anfarwol einioes
I gyhoeddi'n dragwyddawl
Glod Iôr o fewn goror gwawl;
Trwy ffydd gre'—bid lle llawen
I chwi ac i mi. Amen."

Dros flwyddyn yr addewid, sef 70, cerddodd David Charles Caerfyrddin, Ap Vychan, Henry Rees, John Thomas, a George Osborne Morgan un flwyddyn; cerddodd Bardd y Brenin, Twm o'r Nant, Thomas Pennant, Brutus, a Llawdden ddwy. Cerddodd llawer dair, yn eu mysg y mae David Davies Llandinam, Theophilus Evans, Owen Myfyr, Sion Wyn o Eifion er ei gystudd, a Thafolog. A phedair gerddodd Peter Williams, William Williams Pant y Celyn, Huw Derfel, Cynhafal, Bleddyn a Syr Lewis Morris. Bu farw Roger Edwards, Richard Roberts y dyfeisydd, Bardd Alaw, Joseph Thomas Carno, a Syr John Rhys,