Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Caersalem, a phob gŵr a'i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau." Ie, a gwell na hynny; nid cynhaliaeth fydd y ffon, ond addurn i'w throi o gwmpas wrth gerdded yn wisgi, oherwydd llawnder bywyd.

Cerddodd Gutyn Padarn, Gwilym Hiraethog, Eos Glan Twrch, R. J. Derfel, a Chranogwen, oll yn blant y mynyddoedd, flwyddyn wedi'r pedwar ugain; cerddodd Madam Bevan, Dafis Castell Hywel, Gweirydd ap Rhys, a Hwfa Mon ddwy; cerddodd Robert ab Gwilym Ddu, Owen Gwyrfai, Gwrgant, Idrisyn, Thomas Gee, Meudwy Môn, a Lady Charlotte Guest dair; a cherddodd Robert Jones Rhos Lan, Ehedydd Iâl, a'r Hen Olygydd bedair. Yn bump a phedwar ugain y bu farw Robert Owen y cymdeithasydd, John Davies Tahiti, Penry Williams, S. R., a Daniel Silvan Evans; yn 86 y bu farw Angharad Llwyd a Kilsby. Bu farw Rhys Jones y Blaenau a Robin Ddu Eryri yn 88, a D. L. Evans yr Undodwr yn 89. Cyrhaeddodd Lewis Rees ei ddeg a phedwar ugain; ac felly cafodd wyth mlynedd yn ychwaneg o ddydd gwaith na'i fab Abraham Rees, roddodd ei fywyd hir i bum cyfrol a deugain ei Cyclopaedia, y gwaith cyntaf o'r fath yn llenyddiaeth Prydain. "Eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. Nid dyna'm profiad i. Hen bobl dros eu deg a phedwar ugain oed oedd rhai o'r bobl hapusaf wyf yn gofio. Cofient am ddyddiau ieuenctid ac am flynyddoedd gweithio, ond yr oedd pob chwerwedd wedi melysu, pob poen pryderus wedi lliniaru, a'r daith o'u holau heb sŵn ystormydd ac ymdrech yn ymddangos yn deg a diddorol. Gwelais rai'n rhyfeddol hapus