Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn henaint teg. Bu Alltud Eifion farw'n 91; bu Absalom Fardd, Clwyd fardd, Gwalchmai, a Gwenynen Gwent farw'n 94. Pwy oedd patriarch Cymru ym myd crefydd a llên? Bu'r hybarch Williams Troed rhiwdalar yn cael y teitl hwnnw, bu farw'n 95; ond erbyn hyn perthyn i'r hybarch William Evans Ton yr Efail, fu farw'n 96.

Dyna fi wedi taflu rhyw fras olwg dros hyd bywyd rhai o wŷr cyhoeddus Cymru, bron oll yn y ganrif ddiweddaf, ac ar ben eu gyrfa. Dewisais hwy o ddamwain; mae rhai eraill, pwysicach hwyrach, Daw cof rhai ohonynt yn fwy byw i genedlaethau sy'n dod; a'r lleill i angof gyda'r genhedlaeth hon. Nid wyf wedi sôn am rai fu farw'n ddiweddar, rhai welais yn tynnu at ben eu taith; gadawaf hwy hyd gyfle eto. Ac ni fanylais ar ben gyrfa yr un ohonynt, er fod diwedd amryw, megis Dafydd Ddu Eryri a Hugh Jones Maesglasau, yn agor y galon a ffynhonnau'r dagrau.

Amser dedwydd a gogoneddus yw henaint teg. Nid disgyn wna dyn o ganol oed i henaint, ond dal i ddringo i eangderau hyfrytach, purach, a gwell. O feysydd y pechod gwreiddiol, o feddau'r blys, dring i fyny i awyr bur ac iach pen Pisgah. Gwel droion yr yrfa odditano, eu gwylltineb garw wedi ei droi'n brydferthwch yn y pellter. Ac nid oes disgyn i rosydd Moab i fod mwy. A'r bywyd yn fwy santaidd, ac yn awel iach dyner pen y mynydd ymgyll yr enaid mewn llesmair yn yr ysbrydol. A dyna berffeithrwydd pen yr yrfa.


DIWEDD