Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ER MWYN CYMRU.



ENAID CENEDL.

"Tlysni rhyfedd y criafol eleni."

LLAWER blwyddyn sydd er pan darewais nodyn dieithr, yn lleddf ac ofnus, gan alw ar Gymru ystyried rhag iddi, wrth ennill y byd, golli ei henaid ei hun. Deffrodd y nodyn gydymdeimlad mewn miloedd o galonnau, a chryfhawyd y rhybudd gan lawer utgorn. Daeth chwarelwyr Gogledd Cymru i'w gefnogi gydag un floedd. Yn arafach daeth amaethwyr y bryniau a'r dyffrynnoedd i'w groesawu, ac i ddeffro i'w gredu. Dechreuodd cymoedd gweithfaol Morgannwg a Mynwy ateb eu cydymdeimlad gwresog. Ac nid oedd y Cymry ar wasgar, yn enwedig Cymry dinasoedd mawrion Lloegr, ar ol.

Y mae llawer symudiad newydd er hynny. Bron na allwn ddweyd fod cenhedlaeth arall yn syllu ar dlysni rhyfeddol y criafol eleni.[1] "A bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn." Y mae chwyldroad wedi bod ym myd addysg. Y mae galluoedd cudd wedi eu deffro gan y cynnwrf sy'n gwneud i sylfeini cymdeithas

siglo, gwanc rheolwyr am wledydd newydd a

  1. 1918