Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llwybrau masnach, a dyhead gwerin am ryddid a chydraddoldeb a chyfoeth. Pwy fuasai'n meddwl ugain mlynedd yn ol, y buasai cyfoethogion Cymru yn rhoi symiau o arian at addysg y werin, wrth y deng mil, yr ugain mil, a'r can mil o bunnau? Pob llwyddiant i'r genedl ymgyfoethogi mewn golud byd a meddwl, ac arweinied Duw ei hymdrechion arwrol a hunan-aberthol i fuddugoliaeth. Ie, enilled yr holl fyd.

Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall rhyddid ennill y dydd, gall y tlawd godi o'r llwch ac ymgryfhau, gall y goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd, tra enaid y genedl yn llesghau a gwywo. Gall y genedl ymgolli yn yr ymerodraeth, a bod yn rhan farw yn lle bod yn rhan fyw, fel na chlywir ei llais mwy.

A phe digwyddai'r trychineb hwnnw, byddai Cymru heb enaid a'r byd yn dlotach. Pan ddaw ymdrech newydd dros ryddid a chrefydd, nid Cymru godai'r faner; byddai ei llais hi yn fud.

Y mae i Gymru ei hiaith ei hun, ac ni fedr gadw ei henaid hebddi. Nid hyn a hyn o eiriau, mwy neu lai nag mewn ieithoedd eraill, ydyw. Y mae ynddi brydyddiaeth bywyd a gobaith mil o flynyddoedd wedi ei drysori. Pan ddaw'r geiriadurwr anwyd i sefyll uwch ei phen, bydd, nid yn ieithegwr yn unig, ond yn hanesydd a bardd hefyd.

Y mae yn enaid hanner effro Cymru ddefnydd llenyddiaeth odidog; nid yw Ceiriog a Daniel Owen ond megis wedi codi cwr y llen, ac ni rydd Islwyn ond rhyw gipolwg niwliog ar y bywyd heulog llawn sy'n disgwyl ffurf a llais. Ar lenyddiaeth ddieithr,—a honno'n iaith ddieithr a masw