Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

golwg. Mager ef yn yr ysgolion, a cholegau amrywiol y Brifysgol. Ond ei grud yw'r aelwyd. Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr,— yno y ca ysbryd Cymru ei eni. Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol, yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a ffydd ddiysgog na fydded ein nôd ddim yn is.