Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arwydd gweddus i un gododd o isel radd. Ond cenedl o dras ardderchog yw cenedl y Cymry, wedi crwydro'n fore o'r dwyrain, dan arweiniad dychymyg cryf ac ysbryd mentrus; o'r dwyrain cynhesach y daeth y daffodil hefyd; a dyna pam y mae hi'n blodeuo gymaint yn gynt na blodau eraill, blodeua hi yr adeg y deuai'r gwanwyn i'w hen gartref. Hawdd cael ein temtio i gredu i'r Cymry ddod a'r blodeuyn hoff a rhinweddol gyda hwy i'r gorllewin. "Croeso'r gwanwyn ydyw, ac y mae'n ddarlun cywir o fywyd y genedl Gymreig, —bywyd o wanwyn, bywyd o ieuenctid parhaus, bywyd o obeithio yn erbyn pob anhawster, bywyd o gredu'r amhosibl. Medd wyleidd-dra tyner cenedl wedi dioddef, medd ogoniant cenedl yn codi i gymeryd ei lle ei hun. Mae llawer rheswm dros y newid sydd ar genedl y Cymry yn y dyddiau hyn, a'r rhai hynny yn rhesymau amrywiol iawn,—cred mewn etholedigaeth cenhedloedd, gweld golud y bryniau, teimlo manteision addysg. Ie, y mae hyd yn oed chware pel droed wedi ennill parch cenhedloedd eraill, a galw sylw at neilltuolion cenedlaethol mwy pwysig. Ai arwyddlun ein hiselradd gynt, ynte arwyddlun o nôd ein gwanwyn, a ddewiswn ni ?

"Gwasanaethaf" yw arwyddair Tywysog Cymru; ac nid oes wlad yn y byd yn credu yn gryfach na Chymru mewn urddas gwasanaeth. Ond nid gwasanaeth gwasaidd yw i fod. A chreulon. oedd cynnyg fel arwyddair i Gymro,—"Ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei, holl ddyddiau dy einioes." Nid gwasanaeth felly a gaiff y genhinen yn arwydd iddo. I Gymro, nid melltith y sarff, ond braint dyn, yw gwasanaethu. Ac ni ddirmygir cenhinen.