Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MURMUR DYFROEDD[1]

"Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr."

Y MAE rhyw fiwsig cyfrin, suon esmwyth o bell, atgofion am dynerwch hen amseroedd, ym murmur dyfroedd. Yn y nos, pan fydd twrf y byd wedi distewi, y daw y murmur yn hyglyw. I ddechre clywir rhuthr dyfroedd yn bendramwnwgl megis, dim ond sŵn anhrefn prysur gwyllt. Ond, yn raddol, daw'r sŵn yn hyfryd i'r glust, yn furmur hyfryd esmwyth; a thoc daw'n llawn o leisiau, oll yn siarad ar unwaith, yn dweyd pethau gwahanol, ond mewn cydgord sy'n felys iawn i'r glust sy'n hiraethu 'am hen atgofion pell.

Nid ymhob man, hyd yn oed yng Nghymru, y clywir murmur dyfroedd. Ond y mae lleoedd, ac nid ydynt yn anodd eu cael, lle llenwir y nos â suon melys, tyner, parablus dyfroedd sy'n myned heibio, ac yn adrodd hanes y cymoedd y daethant ohonynt, a'r cartrefi y daethant heibio iddynt ar eu taith.

Un o'r lleoedd hynny yw Llangollen. Pan

ddisgynnir yn Llangollen yn y dydd, daw sŵn

  1. Tynwyd y darlun, sydd gyferbyn tudalen 25, ychydig funudau ar ol i Owen Edwards, Coedypry, ac Ellen Davies, y Prys Mawr, benodi eu dydd priodas. Ymhen deng mlynedd ar hugain bron, ysgrifenna Syr Owen Edwards yr ysgrif hon yn ei alar, gan ddodi'r darlun a dynnodd tucha'r ysgrif gyda'r geiriau, "Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr."