Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyfroedd yn groeso; a golygfa sy'n llonni pob llygad yw gweled y tonnau yn dawnsio'n ewyn dros y creigiau. Ond pan ddaw'r nos, a phan ddaw aden distawrwydd dros y fangre dlos, y tyr y sŵn dyfroedd yn gerddoriaeth ddofn, llawn amrywiaeth a meddwl. Lawer noswaith, bum yn treulio oriau canol y nos i wrando ar y dyfroedd oedd yn canu cân mor gyfareddol, cân nad yw dychymyg dyn wedi ei rhoddi ar bapur eto, wrth fynd heibio ar eu ffordd i'r môr. Dwfr y Ddyfrdwy yw'r cantorion, dwfr dwyfol" yr hen Gymry. Yn yr hen amser gynt ciliai'r dyfroedd oddiwrth Gymru o flaen trychineb, ond gwasgent ati o flaen hawddfyd. Ond nid y peth a fydd glywaf fi ynddynt, ond y peth oedd. Deuant drwy lawer ardal hoff iawn i mi, heibio mwy nag un cartref wyf yn garu'n angerddol, heibio llawer amaethdy mynyddig neu fwthyn sy'n ddarlun i mi o fywyd pur nefolaidd plant. Carlamasant yn hoyw heibio i rai ohonynt yn y dydd; llithrasant heibio eraill heb i'r plant eu clywed yn y nos. Ond, i mi, y mae sŵn atgofion am hen lecynnau anwyl yn llais y dyfroedd sy'n mynd heibio dan ganu. I mi, y mae lleisiau oesoedd yn eu miwsig. Ymlonyddaf i wrando arnynt.

Wrth wrando, tybiaf glywed lleisiau'r hen fynachod yn canu mawl i Dduw yn adeg cyni Cymru. Ychydig yn uwch i fyny y mae aber yn rhedeg i ymuno a'r côr o hyfrydwch Glyn y Groes, lle bu'r Cisterciaid gynt yn addoli yn eu tŷ mawreddog cain. Lleisiau bas yw'r rhan fwyaf, a'r gân yn seml bron hyd fod yn arw,—hwyrach eu bod yn canu yn arwyl Owen Glyndwr. Ac ychydig yn uwch i fyny, deuant heibio cartref Owen,—onid oes ynddynt