Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

leisiau afiaethus plant a sŵn yr helgwn, a llais Iolo Goch gyda'r tannau ac islais o bryder a sŵn brwydr. Yn union ar eu holau daw lleisiau glywsant ddoe,—lleisiau'r plant yn Eisteddfod Corwen, a lleisiau'r prif ddatgeiniaid yn canu'r hen alawon. Onid yw murmur Dyfrdwy'n ddidor? Onid yw gobaith Cymru byth yn fyw?

Wrth Langar daw dyfroedd Alwen i ymuno a dyfroedd Dyfrdwy. A chymaint o hen fiwsig ddaw gyda hi, hyawdledd John Roberts o Langwm, llais gwladgarwch Owen Myfyr, chwerthiniad gwatwarus Glan y Gors, odlau melodaidd y Perthi Llwydion, cri'r gylfinhir yn unigeddau'r Hafod Lom. Heibio cartref plant hoyw sydd heddyw ar led y byd, heibio fedd yr hon fu farw yn nhlysni ei hieuenctid, heibio i gapel lle teimlwyd grym nerthoedd tragwyddoldeb,—gymaint sydd gennych i ganu am dano, y dyfroedd mwyn.

Ond, clustfeiniaf am lais y dyfroedd sy'n dod drwy Edeyrnion o ardaloedd y Bala. Clywaf lais clir a dewr Tom Ellis, a lleisiau tyrfaoedd bechgyn ysgol Ty dan Domen y Bala. Megis islais iddynt, yn llawn o gyfoeth miwsig dwys, clywaf lais yr aberoedd sydd wedi eu dofi a'u disgyblu wrth deithio'n araf drwy ddyfroedd Llyn Tegid. Y mae y rhai hyn i gyd yn siarad a mi. Nid oes yr un heb ystori ramantus,—daw pob un heibio cartref lle magwyd meibion a merched na fyddaf byth yn blino cofio am eu tlysni a'u hawddgarwch, eu hathrylith a'u medr, eu hymroddiad a'u haberth.

Y mae llecyn ar lethrau Twrch, cyn cyrraedd cartref Eos Glan Twrch. Plyga coed tewfrig trosto, —derw, ynn, a masarn. Llifa'r pistyll gloyw