Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ai o'r hen oesoedd y daw y llais? Onid fel y siaradai â Llywelyn yn Aberedw, ac a chwcw Williams Pant y Celyn yn Llanfair, y sieryd eto? I mi y mae'n llawn o leisiau'r hen amseroedd. Wedi dechre ei chlywed, clywir nid Wy fawreddog yn unig wrth araf orymdaith dros ei chreigiau, ond llu o aberoedd sy'n ymuno â hi. Daw Ithon, yn llawn lleisiau hen ysgarmesoedd gwŷr rhyfelgar Elfael a Melenydd, a lleisiau mynachod Cwm Hir yn gweddio ar Dduw am heddwch pan na wrandawai dynion dig arnynt. Daw Irfon hanesiol, heibio feddau Kilsby a Theophilus Evans, o Langamarch a Llanwrtyd, ac Aber Gwesin, o'r Gwern a'r brwyn a'r rhedyn, o Gamddwr y Bleiddiaid ac o gartref y barcud. Ymysg lleisiau ei dyfroedd, clywaf gri un afonig fach. Gwelais hi'n codi mewn hafn yn Mynydd Epynt, gwelais hi'n loyw wrth fynd heibio'r Cefn Brith i ddyfroedd Irfon. Llais John Penry glywaf yn ei dyfroedd pur, llais o ing wrth farw yn galw am yr efengyl i Gymru. A daw'r Wy ei hun o'i thaith hir o Blinlimon, heibio'r Rhaeadr rhamantus, a Marteg ac Elan yn ei dwylo; ac, i mi, y peth hyfrytaf yn ei miwsig yw emynau melodaidd John Thomas o Raeadr Gwy.

O gastell Aberhonddu clywais furmur dyfroedd Wysg yn nistawrwydd y nos, tra'n rhedeg dros greigiau rhamantus a graean glân. Canodd Islwyn lawer am brydferthwch y nos; hawdd fyddai canu i'w miwsig. Fel y mae tywyllwch y nos yn dangos y ser, yn dangos heuliau afrifed yn lle un, felly y mae distawrwydd y nos yn rhoddi llais i'r holl aberoedd, sy'n rhedeg heibio cartrefi