Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dedwydd, llawn o blant glân, fel y rhedasant heibio i gartrefi cenedlaethau lawer. Tarrell a Senni, Crai a Hydfer, Gwydderig a Chlydach, Bran ac Ysgir a Honddu,—deuant yn llu i'r Wysg; a mwyn i'r cyfarwydd yw gwrando murmur y dyfroedd, a dehongli beth ddywedant am yr hyn fu ac am yr hyn sydd yn y glynnoedd prydferth a'r mynyddoedd iach y deuant ohonynt.

Mae ambell le na allaf glywed murmur y dyfroedd yn y nos ynddo. Y mae'r afonydd yno, ond y maent yn llifo'n ddistaw drwy'r dolydd. Gwelaf hwy yn y bore, a'r haul yn fflachio'n loyw ar fynwes eu dyfroedd. Ond ni ddywedasent ddim wrthyf yn y nos. Lle felly yw'r Bala, a Llanrwst, a Llandeilo, a Chaerfyrddin. Hwyrach mai afon Tywi yw'r ddistawaf o holl afonydd Cymru; llifa trwy ei dyffryn bras fel pe'n rhy oludog i siarad a neb.

Ond nid yw'r glust yn segur pan nad yw'r dyfroedd yn hyglyw. Y mae distawrwydd dwfn fel pe'n rhyddhau'r glust weithiau i glywed seiniau gollwyd ers blynyddoedd lawer. Clyw y teithydd yn yr anialwch, yn y distawrwydd llethol, sŵn clych yr eglwys yn y pentre ger ei gartref. Ac yn nhawelwch Llandeilo pan na fyn Tywi lefaru gair, sieryd y distawrwydd ei hun, drwy adael i'r glust gofio yr hen gryniadau pan ddaeth newydd o lawenydd neu o ing i'w chyffroi.

Nid yw'r môr yn siarad a mi am Gymru nag am fy hanes fy hun. Estron fum i iddo yn nyddiau mebyd, a phan wrandawaf ar ei ru, yn Aberystwyth neu ar lannau Gwyr, sôn am hanes gwledydd pell y bydd.