Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Prin y mae cenedl ar y ddaear heddyw fedd gymaint o drysorau cudd. Gwyddis am lenyddiaeth ardderchog cyfnod y tywysogion. Pan drodd uchelwyr Cymru eu cefnau ar lenyddiaeth eu tadau, wedi buddugoliaeth Bosworth, aeth cywyddau cain y tywysogion bron yn angof. Ac yn eu lle dechreuodd gwerin roddi llais i'w meddwl ei. hun, llais cras a garw i ddechre, ond llais sydd wedi melysu'n rhyfedd erbyn hyn. A heddyw. y mae gwerin Cymru'n medru mwynhau ceinder ffurf cywyddau'r canol oesoedd; a gall pob ymgeisydd am radd M.A., ddwyn i'r goleu waith rhyw fardd anghofiedig cain. Heddyw y mae chwaeth y gwerinwr mor uchel a chwaeth uchelwr adeg Llywelyn; ac y mae ei gydymdeimlad yn eangach a'i fywyd yn ddyfnach. A yw'r trysorau hyn, trysorau llenyddiaeth gain y tywysogion a thrysorau llenyddiaeth fwy y werin,—i fynd ar goll am byth a neb i sôn am danynt mwy?

Nid oes odid genedl yn meddu iaith mor dlos a byw. Ac y mae clust Cymru wedi deffro i fiwsig ei hiaith ei hun, yn enwedig yn yr ardaloedd lle bygythir hi gan daw distawrwydd bythol. Os cyll Cymru ei bywyd fel cenedl, â i'r bedd yn genedl ryfeddol gyfoethog, ac nid yn genedl dlawd. Ai ysblander yr haul yn machlud welir yn ei bywyd heddyw, ynte bore gogoneddus arall yn torri? Beth bynnag yw, yr ydym fel cenedl mewn ymdrech i fyw. Yr un ymdrech yw ag ymdrech Llywelyn ac Owen Glyndŵr. Beth sydd eisiau at y frwydr?

Y mae'r ateb yn barod, llenyddiaeth fyw apelia at blant. Dyna angen mwyaf Cymru. Cymerer un lle,—Aberhonddu a'r cylchoedd. Mae'r bobl mewn oed yn siarad dwy iaith, ac y mae eu