Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymraeg yn bur a phrydferth bron y tuhwnt i un ardal yng Nghymru; maent o feddwl ymchwilgar a deall parod. Y mae'r plant yn codi i fyny yn unieithog; o'u cymharu â'r to o'u blaenau nid oes i'w meddwl agos gymaint o nerth ac awch. Cwyna rhieni'r plant ar yr athrawon; cwyna'r athrawon ar y llyfrau.

Os ydyw Cymru i fyw, rhaid i rywrai ymdaflu i waith dros y plant. Nid ar faes y gad, ond mewn llenyddiaeth, y mae eisiau Llywelyn a Glyndŵr. Y mae inni lenyddiaeth fyw a chyfoethog, gwn hynny'n dda; ni welodd un cyfnod o'n hanes gynifer o lyfrau a chymaint o ganu. Ond i hen genedl y cenir y rhan fwyaf; ac nid i genedl ieuanc, nid yw'r meddwl yn ddigon syml, clir, newydd, a diddorol. Er amser Goronwy Owen, y mae beirdd goreu Cymru wedi efelychu hen fesurau. Y mae llaweroedd o feirdd y mesurau caethion, yn enwedig Eben Fardd, wedi canu'n brydferth fyw. Ond, er mwyn cadw bywyd Cymru, buasai un Hans Anderson yn werth, a mwy na gwerth, y cyfan i gyd. Y mae gennym yn y Mabinogion drysorgell o ystraeon na all Denmark na Germany ddangos eu tebig. Ond tra y cafodd Denmark ei Hans Anderson i wneud i'w hen chwedlau fod yn ddiddordeb bywyd pob plentyn yn ei hynysoedd a'i gwastadeddau, a Germany ei brodyr Grimm i wneud yr un gymwynas i blant ei thalaethau aml, nid oes i Gymru eto ond ei defnyddiau ardderchog a'i hiraeth am y llaw a ddaw, nid yn rhy hwyr gobeithio, i wneud y gwaith.

Y mae holl rwysg yr Eisteddfod yn mynd i'r rhannau hynny o lenyddiaeth, yr awdl a'r bryddest —sy'n apelio at y diwylliedig, y cyfarwydd, a'r