Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hen. Ond am y rhannau sy'n apelio at y werin a'r ieuanc, y delyneg a'r rhamant yn enwedig, —ni roddir fawr o help i'w codi i fri a sylw. Ac eto hwy yw bara bywyd llenyddol Cymru, tra nad yw'r lleill ond danteithion i'r llenyddol gyfoethog.

Y mae'n beirdd yn ddiogel, a'r llenorion sy'n darllen ac yn beirniadu eu hawdlau, eu cywyddau, a'u pryddestau. Ond, y mae'r werin mewn perigl ar ymylon hyfryd Maldwyn, ar lethrau hanesiol Brycheiniog, yng nghymoedd tlysion Mynwy. Ar eu cyfer hwy rhaid cael yr emyn nawsaidd, y delyneg dyner, a'r rhamant fyw. Gwnaeth Ceiriog fwy i gadw'r Gymraeg yn fyw na holl feirdd y gynghanedd gyda'i gilydd, Ac i gyfarfod a'r angen, dyla llenyddiaeth gychwyn o'r newydd, nid o'r awdl, ond o Dwm o'r Nant neu Geiriog neu Ddaniel Owen. Y mae tŵr mewnol y genedl yn ddiogel hyd yn hyn, y mae beirdd yno yn hyfryd ganu awdlau i glustiau ei gilydd. Ond ar y rhagfuriau y mae'r perigl, ac ychydig yw nifer y rhai deheuig sy'n ymladd yno.