Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I'R MYNYDDOEDD

"Pell byramidiau y dragwyddol law,
Mor union y cyfeiriant ato Ef!"
——ISLWYN.

Y MAE llawer o'm darllenwyr wedi dringo ochrau perigl yr Alpau, neu wedi crwydro o gwm i gwm yn Norway. Ond y mae yn amheus gennyf a welsant ddim mwy ardderchog na'r Berwyn,—yr eangderau tawel unig sydd rhwng Maldwyn a Meirion,—ar nosweithiau hafaidd yn niwedd Awst, pan oedd y lleuad lawn yn tywallt diluw o oleuni arnynt.

Y mae cenhedlaeth yn awr yn codi mewn awyr iachach, a chyda gorwel pellach, na'r un genhedlaeth o'r blaen. Ar ddiwedd y ganrif ddiweddaf, prin yr oedd gwerin Cymru yn gyfarwydd â'r syniad o "fynd i'r môr." Byddent yn byw cymaint yn eu hunfan a gwerin rhai rhannau amaethyddol yn Lloegr yn awr. Prin y symudai'r gwragedd o amgylchedd eu tai, drwy holl gydol eu bywyd. "Rhyfedd, rhyfedd," ebe un oedd wedi mentro i ben bryn ger ei hannedd, " fod y byd mor fawr." Ond erbyn diwedd y ganrif hon, y mae bron bawb yn teithio peth, ac yn byw llawer yn yr awyr agored. Bydd dyfodiad y ceffyl haearn. mae'n ddiameu, yn estyniad oes i ddynolryw, gan ei fod yn temtio pobl y trefydd i lithro drwy awyr iach. Hoffwn weled, os caf fyw, ddau ddiwygiad yn nechreu'r ganrif nesaf. Hoffwn weled ail adeiladu bwthynod llafurwyr yn eu hen leoedd iach a rhamantus, a'r pentrefydd hagr yn adfeilion.