Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A hoffwn weled rhai yn treulio eu gwyliau mewn pebyll ar y mynyddoedd. Ceid iechyd a thawelwch yno, gorffwys i'r corff a gorffwys i'r meddwl. Atelid rhwysg dau elyn sy'n difrodi mwy ar fywyd bob blwyddyn,—darfodedigaeth a gwallgofrwydd. A fuoch chwi yn treulio noson mewn pabell ar y mynydd ar noson o haf? Y mae'r lleuad yn codi y tu cefn i'r mynydd y mae eich pabell arno. Y mae eich ochr. chwi i'r mynydd yn berffaith dywyll, y mae duwch y nos a chwsg drosti. Ond y mae goleu'r lleuad lawn ar yr ochr gyferbyn, ac y mae ysblander y mynyddoedd ar eich cyfer, yn eu gwisg o arian ac aur symudliw, yn beth na all geiriau yr ysgrifennydd na lliwiau y lluniedydd roddi syniad egwan am dano.

A glywch chwi furmur yr afon islaw, a dwndwr hyfryd aberoedd pell? Nid ydynt yn eich blino, y maent fel pe'n rhan o'r distawrwydd mwyn sy'n gorffwys ar yr holl fynyddoedd, ac y maent fel pe'n tyner anadlu cwsg. Nid ydych yn sicr pa un ai cysgu wnewch, ynte ceisio barddoni. Y mae'n wir na feddyliasoch am farddoni erioed o'r blaen; a hwyrach mai trwy ymdrech y mwynhasoch Wordsworth ac mai o gydwybod y darllenasoch Islwyn. Ond heno, y mae rhyw feddyliau tebig i'w meddyliau hwy yn ymweled â chwi. Y mae gorffwys y mynyddoedd yn cryfhau eich meddwl, ac yn eich codi i gwmni na fuoch yn alluog i'w fwynhau erioed o'r blaen, nac yn deilwng o hono.

Bu cymundeb â natur, feallai, yn crebychu dynoliaeth. Yr oedd ar y barbariad ofn newyn a syched, yr oedd arno arswyd y mynydd a'r nos, ni allai ef feddwl am ddim ond anghysur ynglŷn