Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â'r glaw a'r ystorm. Llechu, fel ffoadur euog, oedd prif awydd ei reddf. Erbyn heddyw y mae Creawdwr y ddaear yn Dad. Gwelir nad oes dim ar y ddaear ond i ryw ddiben da. Y mae cariad yn bwrw allan ofn. Y mae dynolryw yn iachach; yn gryfach, ac yn hapusach nag y bu erioed.

Yn afiaeth ei awen gwahodda Ceiriog ni i'r mynyddoedd. Dring y bardd y Wyddfa gyda ni, "gan ddiolch am gael gwin y graig mor agos at y nen." Y mae meddygon blaenaf yr oes yn dweyd yr un gorchymyn, yn fwy awdurdodol, er nad mor swynol. Os yw'r iechyd yn pallu, ni raid i ti fod yn alltud mewn gwlad bell; dring y mynydd agosaf, a byw gymaint fedri ar ei ben.

Byddai gan ein hynafiaid hendre a hafoty,— y naill yn y dyffryn clyd cysgodol, a'r llall ar fron uchel y mynydd mawr. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy newid eu trigfan er mwyn cael bwyd. Y mae rhaid arall arnom ni,—rhaid iechyd corff a meddwl. Dylai pob un o honom fyw a chysgu a bwyta ar y mynydd, yn y maes, neu yn yr ardd gymaint sydd bosibl, ac nid yn y tŷ.

Ac i'r rhai o honom sydd yn gorfod treulio ein dyddiau yn y fyfyrgell neu'r ddarlithle neu'r swyddfa, y mae wythnos mewn pabell ar y mynydd bob blwyddyn yn estyn einioes, yn cryfhau meddwl, ac yn dyblu'r gallu i wneud gwaith.

Nid anghofiaf byth, mi gredaf, ddiwrnod a dreuliais ar ben yr Aran ddiwedd yr haf. Wrth droed y mynydd yr oedd fy nghorff yn llesg, a'm meddwl wedi pylu; ni chawn un mwynhad o hyfrydwch lliw neu felyster sain, ac ni fedrwn orffwys. Dringais y mynydd am ddwy awr, a chefais fy hun yn ddyn newydd. Yr oedd yr awel ysgafn falmaidd