Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel y gwin. Yr oedd y niwl teneu nofiai dros y mynydd yn hyfryd i'w anadlu, ac fel pe'n treiddio i bob rhan o'r corff i yrru blinder a lludded i ffwrdd. Symudai pob pryder ac ofn oddiar y meddwl. Teimlwn y gallwn wneud unrhyw beth bron ond cael amser ac iechyd. Ac wrth edrych ar y dernyn grisial sydd o fy mlaen, un o'r miloedd welais ar gopa'r Aran, y mae cof am yr awyr iach yn dwyn heddwch a gorffwys ac adnewyddiad nerth.

Y mae cannoedd, os nad miloedd, o furddynau bwthynod ar odrau ein mynyddoedd yng Nghymru. Gynt megid teuluoedd o fechgyn a genethod gwridgoch a iach yno. Y mae'r hen gartrefi prydferth yn awr yn adfeilion, a'r bobl oll yn byw mewn pentre o dai bychain afiach godwyd ar hen gors ger gorsaf y ffordd haearn. Onid oes Gymry yn y trefydd hoffai godi, neu rentu, bythynod felly, a symud i fyw iddynt yn eu gwyliau yn yr haf? Byddai'n llawer rhatach, ac yn llawer mwy dymunol, na thyrru gyda phawb i lan y môr. Mewn bwthyn yn y wlad, byddid ymhell o sŵn y coeg ganu a'r coeg chwareuon sy'n gwneud eiddilod yn hapus. Ceid mwynhau bywyd Cymreig fel y mae. Cai tad roddi i'w blant y bywyd, y Sabothau, y canu sydd mor gysegredig yn yr atgofion am ei ieuenctid ei hun. Cai feddwl, hefyd, fod ganddo gartref bychan yng Nghymru. Cyn hyn, gwelais hen feudy wedi ei droi yn hafdy bychan cysurus. Bychan fyddai'r bwthyn, wrth gwrs; ond y mae'r mynyddoedd a'r wlad o'i gwmpas yn ddigon eang i lond tŷ o blant chware faint a fynnont. Yr wyf yn credu fod yr awgrym yn un gwerth sylwi arno.