Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i.—Un ydyw'r syniad mai y tu allan i Gymru y mae pob cyfoeth gwerth ei gael. Bu Cymru heb wybodaeth am ddiwylliant Ffrainc a gwyddoniaeth yr Almaen. Wel hai ati, ynte, ymgoller yn llenyddiaeth y cenhedloedd hyn, ac anghofier fod gan Gymru hanes na llenyddiaeth, darganfyddwr na gwyddonydd, cân nae alaw. Cynhwysa llyfrau diweddar ar addysg gwynfan geneth athrylithgar, rhan nodweddiadol o gynnyrch ysgolion Cymru, mai yn Ffrainc y darganfyddodd llenyddiaeth ei gwlad ei hun. Ac adleisir ei chŵyn gan galonnau tyrfaoedd o fyfyrwyr Cymreig, y deffrowyd eu heneidiau i weled golud eu gwlad eu hunain mewn prifysgolion pell. Y mae elfennau bychander,—hunanoldeb anwybodaeth, diystyrwch o'r hyn nas gwyddir, eiddigedd gondemniol o wybodaeth nas meddir, a nodweddion nad oes gan yr iaith Gymraeg enw arnynt, yn llechu yn berigl cudd yng nghyfundrefn addysg Cymru. Cymerer gŵr o Gymro na fedr Gymraeg, wedi esgeuluso neu wrthod pob cyfle i'w dysgu, ac yn bychanu neu ddirmygu y llenyddiaeth na ŵyr ddim am dani,—gellir o'r gŵr hwnnw gor mor fychan fel yr heriwn holl wledydd Ewrop i ddangos ei salach a'i lai. Ac y mae yn ein mysg.

ii.—Gallu perigl arall yng nghudd yn addysg Cymru yw i ŵr fedru credu ei fod wedi dysgu popeth. Y mae'r perigl hwn yn gryf yng Nghymru oherwydd ein ffydd iach draddodiadol yn nerth gwybodau, yng ngrym addysg. Ac yn awr, yn y gyfundrefn newydd, cawn dystysgrif ysgol a gradd prifysgol fel arwydd y nerth a'r grym; a rhyfedd y bychander fedr ambell ŵn guddio. Y mae ffynhonnell y