Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

perigl yn amlwg. Yr arholiad yw. Gorfodir yr efrydydd, mewn ysgol a choleg, i gasglu gwybodaeth mewn pynciau erbyn adeg neilltuol, yna arholir ef, a chyhoeddir ei dynged. Y perigl mawr yw i'r efrydydd, a'r cyhoedd, feddwl ei fod ar ben ei daith yn y pynciau hyn, na raid iddo eu hefrydu mwy, ac y gall fyw ar ei radd. Y gwir ydyw, os cymer dyn radd a bod am bymtheng mlynedd heb efrydu mwy, y mae'n anheilwng o'i radd, ac yn ddyn annysgedig. Os hyfforddir athraw mewn coleg, ac yntau'n defnyddio dulliau'r coleg am bymtheng mlynedd heb newid, buasai'n well iddo pe heb ei hyfforddi o gwbl. Y mae dyn sy'n tybio na ŵyr ddim, er yn anwybodus, yn well athraw ac yn well dyn na gŵr tystysgrif a gradd sy'n tybio ei fod yn gwybod popeth. Dylai cyfundrefn addysg berffaith anfon i'r byd rai'n teimlo eu hunain ar gwr maes gwybodaeth a meysydd eang toreithiog o'u blaenau. Ond, os anfonant rai wedi gorffen efrydu eu pynciau, llanwant y wlad a chorachod.

iii.—Trydedd meithrinfa corach yw aros yng Nghymru pan mae'n bosibl iddo grwydro i brifysgolion eraill.. Tybiai rhai y dylai Cymro ymgadw rhag mynd i brifysgolion eraill o barch i'w brifysgol ei hun. Cyngor annoeth yw hwnnw. Y mae rhywbeth ymhob Prifysgol gwerth ei ddysgu. Y mae agoriad llygaid a deffroad meddwl i Gymro ymhob man. Cafodd cenedlaethau eu dysg yn Edinburgh, Glasgow roddodd ddeffroad i lu yn ddiweddar. Crwydrodd eraill i hen brifysgolion yr Almaen neu'r Eidal, ac eraill i brifysgolion newydd gwych yr Amerig. Ond, o'r