Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FFYRDD HYFRYDWCH

ELENI eto bum yn edrych ymlaen yn hiraethlawn at ddyddiau'r mafon duon. Ac o'r diwedd, ar ddiflaniad haf glawog, daeth diwrnod mwyn a heulog. Troais innau'm wyneb i'r mynyddoedd, a chyrhaeddais y fan y cefais y mafon duon y llynedd, lle murmur ffrydlif a mynydd yn hapus, a lle daw awelon pur a iechyd ar eu hedyn.

Cefais fy hun wrth fur adfeiliedig, a'r mieri yn plygu drosto, ac yn cynnyg imi'r mafon yn nuwch gloywddwfn eu haeddfedrwydd. Prin na thybiwn eu bod yn fy adnabod, ac yn gwenu arnaf dan dywyniad yr heulwen, ac yn dweyd nad oedd neb yn rhoi pris ar eu melyster chwerwaidd ond myfi. Sisialai'r afonig gerllaw, gan fy atgofio ei bod hithau yno, a chofiwn fod mafon aeddfed yn crogi uwchben ei dŵr, gan ddawnsio uwchben ei chrychddwfn, a gwenu'n dawel lle gwelent eu llun yn ei llynnoedd clir a thawel. Ond byr fu munudau fy hyfrydwch. Daeth amaethwr ataf o'r cae llafur gerllaw, a dechreuodd areithio. Yr oeddwn wedi gwneud dau gamwri. Yr oeddwn wedi trespasu ar ei dir ef. Pe gwnai ef yr un peth ar dir rhywun arall, i'r carchar y cai ef fynd. A gwaeth na hynny, nid oeddwn wedi gofyn ei ganiatad ef i hel mafon duon. Atebais yn addfwyn na charcherid ef tan wnai ryw ddrwg; ac am ofyn ei ganiatad, na wyddwn i o bobl y ddaear pwy oedd, nac i bwy yr oedd y caeau'n perthyn. I