Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eto. A dyna feddwl llawer, oherwydd nid yw trenau'r teithwyr yn aros yng ngorsafoedd y dyffryn.

A dyma finnau ar y ffordd. Nid wyf am fynd i gaeau neb arall, rhag cael yr un gwaharddiad. Af i fyny'r Garneddwen hyd y ffordd hir; ac er fod llawer o fafon cynnar a rhai llus diweddar hyd y cloddiau, ac er fod mynyddoedd gwyrddion hyfryd i'w gweld drostynt, teimlwn fod y ffordd fel carchar.

Trodd fy meddwl yn sydyn at ffyrdd sydd oll yn hyfrydwch, ffyrdd y mae rhyddid perffaith yn teyrnasu arnynt ac o'u hamgylch, ffyrdd a'u hamrywiaeth yn ddiddarfod, ffyrdd ar y rhai na all neb fod yn sarrug neu'n anheg. Y ffyrdd hyfryd yw ffyrdd llenyddiaeth.

Ers deng mlynedd ar hugain bellach yr wyf mewn cymundeb a gohebiaeth barhaus â phobl ieuaine feddylgar Cymru. Er llawenydd i mi, y mae newid wedi dod dros y cwestiynau arferent ofyn. Unwaith gofynnid am gyfarwyddyd i ennill gwobr, yn awr gofynnir am y ffordd oreu i fynd i mewn i faes llenyddiaeth. Diddorol, yn ddiau, yw fod rhai Cymry ieuainc yn dringo at wobrau uchaf ysgolion a cholegau'r wlad; anhraethol mwy diddorol yw teimlo fod lefain o bobl ieuainc yng nghyfangorff llafurwyr a mwnwyr ac amaethwyr a chrefftwyr ein gwlad wedi teimlo hyfrydwch ffyrdd llenyddiaeth.

Y mae llawer ffordd i ŵr ieuanc, fedd ychydig o oriau hamdden fin nos, dramwyo i lenyddiaeth Cymru.

Y ffordd symlaf a hawddaf yw cymeryd llawlyfr hanes syml, er mwyn cael cipolwg ar rediad hanes y wlad; bydd yn hawddach, wedi hynny, cael