Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cipolwg ar rediad meddwl y bobl. Y mae digon o lawlyfrau'n rhoddi amlinellau hanes Cymru, o geiniog i gini o bris. I rywun yn dechre goreu bron po fyrraf fo'r llyfr. I gael hanes llenyddiaeth Cymru, rhaid cael llawlyfrau mwy, ac o leiaf dri o honynt. Nid ydynt yn hawdd iawn eu cael ychwaith, ond gellir eu benthyca o lyfrgell neu eu darllen yno. Y cyntaf yw "Literature of the Cymry," o waith Thomas Stephens, sy'n rhoi hanes llenyddiaeth Cymru hyd 1322; yr ail yw Hanes Llenyddiaeth Cymru o 1320 hyd 1650, gan Gweirydd ab Rhys; a'r trydydd yw Hanes Llenyddiaeth Cymru o 1651 hyd 1850, gan Charles Ashton. Y cyntaf yw y mwyaf meddylgar a mwyaf diddorol, ond y mae wedi ei ysgrifennu yn Saesneg. Y mae'r ddau awdwr arall wedi gofalu mwy am wneud eu ffeithiau yn gyflawn, yn hytrach na gwneud eu meddwl yn drefnus, ac am fudd yr ysgolor a'r efrydydd yn hytrach nag am ddiddordeb y darllenydd cyffredin.

Y mae hon yn ffordd i gyffiniau llenyddiaeth, ond nid oes hyfrydwch ynddi. Gall ambell un, mwy ei egni a'i gydwybodolrwydd na'i gilydd, ei cherdded i'r diwedd. Ond am y rhan fwyaf o honom, llyfrau gwerthfawr i fod ar ein hastelloedd i gyfeirio atynt yw y rhai hyn, ac nid rhai i ddangos i ni ar ddechreu'n taith gymaint o wynfydedd sydd o'n blaen. Y Porth Sych i wlad llenyddiaeth yw'r ffordd hon.

Y mae ffordd arall, drwy Borth y Beirdd. Cymerer tri llyfr, Alun Mabon Ceiriog, Awdl y Flwyddyn Eben Fardd, a rhannau o Ystorm Islwyn. Bum yn siarad a channoedd o Gymry sydd wedi dod i hyfrydwch llenyddiaeth gydag Alun Mabon,