Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ni chefais un o honynt heb deimlo swyn naturiol a syml Ceiriog. Y mae miwsig hen alawon yn yr iaith, ac adlais o hen gartrefi yn y meddwl; y mae ieuenctid a'i hapusrwydd yn dod yn anfarwol, a Natur hen yn ieuanc byth. Y mae meddwl Awdl y Flwyddyn yn gain a chlir, yr iaith yn feistrolgar o syml a chyfoethog; trysorfa o emau ydyw; nis gwn am ddim sy'n cynnwys cymaint amrywiaeth o hyfrydwch mewn unoliaeth mor syml. Yn rhannau o'r Ystorm, hwyrach, y mae meddwl Cymru, hyd yn hyn, wedi cyrraedd ei fan uchaf. Gŵr oedd Islwyn oedd yn anhraethol uwch na neb dyn a'i hysbrydolodd, ac nid oes ysgol y gellir ei gyfyngu iddi, y mae'n llais i fardd mwyaf Lloegr yn ei ganrif ac i athronydd mwyaf yr Almaen heb oleuo ei lusern wrth dân yr un o honynt hwy. Pan fo gŵr ieuanc wedi teimlo nerth a swyn y tri gwaith hyn, gall ei ystyried ei hun yn un wedi cael ysgol dda. A ymlaen, wrth ei bwysau, i ddarllen ychwaneg o waith y tri, a myn wybod sut y mae eu bywyd yn esbonio eu gwaith. Hoff ganddo hwyrach fydd medru ar dafod leferydd ambell ddarn sy'n mynnu aros ar ei glyw, megis "Aros mae'r mynyddau mawr," "Ymweliad â Llangybi," a "Cheisio Gloewach Nen."

Y mae llawer ffordd arall at y porth hwn. Gellid, er esiampl, gymeryd Myfanwy Fychan Ceiriog, Awdl Heddwch Hiraethog, ac Awdl Elusengarwch Dewi Wyn. Yn wir, y mae cyfoeth o drioedd fel hyn yn ein barddoniaeth.

Porth arall yw Porth y Llenorion. Gellir cymeryd rhyddiaith yn lle barddoniaeth. Yn ein gwlad ni y mae rhyddiaith wedi cael peth cam. Ysgrifennir barddoniaeth ym munudau cynhyrfiad, y mae