Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddwl yr enaid ac ei lawn egni, ac afradir gofal ar ddewisiad geiriau ac arddull. Ond munudau cyffredin bywyd roddir i ryddiaith, a chymerir y gair agosaf at law. Ond bu un cyfnod yn hanes Cymru ddechreuodd mewn cynhyrfiad meddwl grymus ac a ddiweddodd mewn arddull gain. Ffrwythau goreu'r cyfnod hwn yw Llyfr y Tri Aderyn Morgan Llwyd, Gweledigaethau Bardd Cwsg gan Ellis Wynne, a Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans. Yr oedd cyfnod Morgan Llwyd y cyfnod rhyfeddaf yn hanes Prydain. Cododd y bobl yn uwch, o ran teimlad a gweled, nag y codasant cynt nac wedyn; ac yn y cyfnod hwn y gwelwyd bron bob meddwl mawr sydd wedi gorchfygu o hynny hyd yn awr. I'r cyfnod hwn yr eir i chwilio am ysbrydiaeth gan bob proffwyd ac apostol. Y mae Crynwyr y dyddiau hyn yn ceisio adnewyddu eu sel a'u grym trwy fynd yn ol at George Fox. Pan oedd bardd mwyaf ein hoes ni a'n tadau yn gweld angen ymnerthu ac ymladd o'r newydd, at Milton y trodd, gan ddweyd, "England hath need of thee." Ar un wedd y mae Cromwell, a Vane, a Blake yn llefaru eto pan ymysgydwo pobl i wrando arnynt. Llais Cymru yn y dyddiau hynny oedd llais Morgan Llwyd, a gall efrydydd Cymreig droi ato am ysbrydoliaeth. Er amled ei ystormydd, dydd o ysblander anghymharol oedd dydd y Chwyldroad Puritanaidd. Ac weithiau y mae i ddydd felly nawn tawel dwys, a'i liwiau wedi tyneru, ac ysbryd gorffwys dros y fro. Ar nawn felly y breuddwydiodd Ellis Wynne ac y dychymygodd Theophilus Evans. Dywedir fod cyfansoddi yn yr iaith Roeg yn rhoddi ceinder anileadwy hyd yn oed i lawysgrif yr hwn a'i gwna.