Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae darllen y tri gwaith hwn, rhai mor anhebig i'w gilydd a chyda pherffeithrwydd mor wahanol, yn sicr o adael argraff ddigamsyniol ar arddull y neb a'u darlleno, rhoi nôd arni sy'n llawer amlycach a gwerthfawrocach na certificate yr un ysgol ac na thestamur yr un brifysgol. Cyn deall y gweithiau hyn yn llawn, rhaid cael rhyw syniad am hanes yr amseroedd. Fel y mae'r gwaethaf, nid oes lyfr yn Gymraeg rydd yr hanes hwn. Pryd, tybed, y blina ein haneswyr ar ogofau gweigion yr oesoedd tywyll ac ar ryfeloedd diffrwyth yr oesoedd canol? Pryd y gadawant fân gwerylon yr hen dywysogion ac achau anorffen eu beirdd, ac y troant eu sylw at adeg y mae gwaed bywyd dynoliaeth i'w glywed yn curo ynddo? Nid ydynt wedi gwneud hyn eto, yr un ohonynt. Felly, rhaid i mi enwi llyfr Saesneg. Llyfr mewn cyfres o lyfrau ysgol ydyw, ei enw yw The Puritan Revolution. Y mae'n llawer amgenach peth nag a ddisgwyliech gael mewn cyfres felly, wedi ei ysgrifennu'n fanwl o lawnder gwybodaeth S. R. Gardiner, un o haneswyr goreu y blynyddoedd diweddaf.

Y mae llu o ffyrdd hyfrydwch eraill yn arwain at Borth yr Ardaloedd. Cymerer un ardal, edrycher ar ei golygfeydd, chwilier ei hanes, gwnaer rhestr o'i beirdd, ac ystyrier rhediad ei meddwl. Goreu i bob efrydydd ei ardal ei hun. Os Llansannan yw honno, neu Langybi, neu Lanymddyfri, neu aml i lan arall, caiff fynd trwy borth ei etifeddiaeth ei hun. Neu gellir cymeryd ardal eangach, dyweder Môn neu Leyn, neu Ddyffryn Clwyd, neu Ddyffryn Towi. Os cymerir Llansannan, dyna i chwi Dudur Aled, William Salisbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog, a Iorwerth Glan Aled,