Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—os gwyddis banes y rhai hyn adnabyddir ysbryd llenyddiaeth Cymru bron ym mhob un o'i lwybrau.

Arweinia ffyrdd eraill, rhy aml i mi fedru eu henwi, at Byrth y Bywydau. Dyma'r ffordd, hwyrach, lle gwelir y mynyddoedd uchel, a lle daw mwyaf o ysbrydiaeth arwrol i'r meddwl. Cymerer tri llyfr,—Cofiant Ann Griffiths gan Morris Davies, Bangor, Atgofion am John Elias gan Gwalchmai, a Cofiant John Jones Talsarn gan Owen Thomas. Hanes syml yw'r cyntaf, hanes merch amaethwr ysgrifennodd emynau na ellir cymharu emynau yr un emynyddes, oddigerth rhai brenhines Navarre hwyrach, â hwy. Dyma'r dull symlaf ar fywgraffiad. Penodau yw'r ail gan un o'r ysgrifenwyr rhyddiaith mwyaf clir a dillyn fedd ein cenedl. Arweinia'n naturiol at y trydydd; ac y mae hwn, ar fwy nag un cyfrif, yn un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd y Dr. Owen Thomas wedi ei eni'n fywgraffydd. Yr oedd ganddo gof diderfyn at groniclo manylion, ac yr oedd ganddo feddwl athronydd i godi uwchlaw'r manylion ac i'w gweled oll yn eu lle. Synnwyd fi lawer tro gan fanylrwydd ei wybodaeth, a chan nerth ei gof. Bu'n adrodd wrthyf unwaith hanes fel y gwelodd John Jones Talsarn gyntaf. Ni fu'n edrych arno'n hir yn cerdded mewn gardd. Ond yr oedd wedi cyfrif faint o fotymau oedd ar ei wasgod; ac yr oedd yn cofio, ymhen tri ugain mlynedd ac ychwaneg, pa flodau oedd yn tyfu ar lwybrau'r ardd. Ac y mae ei "Hanes John Jones" yn un o'r llyfrau mwyaf cyfoethog yn yr iaith Gymraeg. Yn wir, efe yw'r hanes Cymru goreu sydd wedi ei ysgrifennu eto, yn yr agwedd honno ar hanes sy'n apelio