Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at y meddwl Cymreig. Y mae'r llyfr hwn yn llyfrgell ac yn oriel ddarluniau ynddo ei hun. Gellir troi iddo ddydd ar ol dydd, a chael ynddo drysorau na heneiddiant, ond a ddaliant i ddisgleirio o hyd. Wedi darllen y tri llyfr hyn bydd yr efrydydd yn teithio ymlaen i'r dyfodol yng nghwmni cewri, ac adlewyrchir ar ei enaid lawer o'u harddwch a'u nerth. A bydd ei ffordd yn ffordd hyfrydwch.

Neu gellid dewis llawer tri bywgraffiad arall, neu dri hunan-gofiant, hanes cenhadon hedd, neu fwnwyr, neu ddyfeiswyr, neu deithwyr. Y mae ffyrdd hyfrydwch yn mynd trwy lu o byrth eraill, megis Porth y Rhamantau, Porth y Dychymyg, Porth y Ser, Porth y Blodau, Porth y Crefyddau, Porth y Dyfeisiadau, Porth y Gwledydd Pell, Porth y Plant. Ond rhaid eu gadael ar hyn o bryd.

Y mae miloedd o Gymry wedi darganfod y ffyrdd hyn, ac y maent wedi cael mwy o gyfoeth o honynt nag a gafodd neb o'r aur a'r calch a'r glo sydd ym mynyddoedd Cymru. Yr wyf yn gobeithio yr adroddant, o un i un, pa fodd y cawsant flas ar lenyddiaeth, pa ffordd hyfrydwch y cychwynasant arni, ac at ba borth y cyfeirient. Bydd yn dda gan eraill weled eu camrau, a phwy ŵyr faint o ddilyn fydd arnynt i hyfrydwch pur?

Ond dyma fi eto ar ffordd y Garneddwen, ac yn dod yn agos i rediad dŵr. Y mae'r ffordd yn gyfyng, y mae rhywun wedi meddiannu'r tir hyd ati bob modfedd o'i hyd. Ond y mae ffyrdd yn eiddof finnau, ffyrdd heb derfyn ar eu rhif ac heb ddiwedd ar eu hyfrydwch.