Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eifionnydd,—y Foel Ddu a Moel Hebog a'u cymdeithion. Yn union o'm blaen, ymhell i'r gogledd, codai'r Wyddfa yn ddistaw fawreddog ymysg ei theulu.

Ond nid i fwynhau cymundeb ysbryd â'r mynyddoedd y teithiwn i y nawn hwnnw. Yr oeddwn yn chwilio am fedd.

Er hynny nis gallwn beidio sylwi ar ambell beth ar y ffordd yn y fro gyfareddol hon. Unwaith yr oedd y môr dros y gwastadedd gerddwn, i fyny hyd Aber Glaslyn; a golchai'r tonnau ymyl gwisg y mynyddoedd y cerddwn hyd eu godre. A'r adeg honno mor ardderchog oedd yr olygfa, a'r môr yn ei rwysg.

Wrth ddringo i fyny teimlwn yn fwy gonest a chryf gan fod tir dan fy nhraed nad oedd yn dir lladrad, a hwnnw'n graig na fedr y môr ei adfeddiannu byth tra bo deddf ei ryddid fel y mae. Dyma bentref bychan glân fu gynt uwch y môr a'i ru, ac ar y chwith westy ac arwydd o waith haearn cain yn tynnu sylw pob fforddolyn. Y mae'r gwaith haearn tlws, wrth ysgwyd yn y gwynt, yn ddarlun o beth allai gofaint cywrain Cymru wneud pe wedi rhoddi eu meddwl yn eu crefft. Ond, ysywaeth, gwaith cenedl ddieithr yw, a dyllhuan rhyw hen deulu Cymreig wedi ei rhoi yn lle eryr y genedl uchelgeisiol. Troais i mewn i'r gwesty, tŷ glân cysurus, llawn o hen lestri prydferth a gwerthfawr, a'r bwyd dan gamp.

Cerddais ymlaen trwy'r pentref, a throais ar y dde, heibio i hen gartref Cymreig, y tŷ wedi ei drwsio'n brydferth, a'i erddi llawn dan eu llwyth o ffrwythau. Yna, wedi mynd dan fwa cerrig,