Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wele ffordd gul yn fy arwain i mewn i fryniau Meirionnydd, i un o'r glynnoedd sy'n awr yn ymagor ar y morfa marw ond a fu gynt yn agor ar y môr byth aflonydd. Cerddais, am nas gwn i faint, wedi ymgolli yn nhlysni blodau ochrau'r ffordd a glesni'r mynyddoedd mawr yn eu tawelwch pell. A pha ryfedd? Onid diwedd haf oedd hi, a'r amaethwyr yn cludo olion gwair oddiar y ffriddoedd a thoraeth euraidd yr yd o'r caeau islaw? A chanai clych yr eos ogoniant yr hydref.

Ond, ar y dde, yn ochr y ffordd, dyma fynwent. Y mae mur cadarn, trwchus ac uchel, o'i hamgylch, rhyngddi a'r ffordd odditanodd a rhyngddi a'r llechwedd oddiarni. Medrais ddringo iddi, i annedd dawel y marw. Ac wedi i mi edrych o'm cwmpas, yr oeddwn megis wedi dringo i brydferthwch y nefoedd.

Edrychais i ddechre dros y ffordd y dringaswn ohoni. Odditanaf yr oedd llawr Aber Glaslyn, a throsto codai'r Wyddfa i'r nen o ganol ei theulu cawraidd. Troais i'r ochr arall, ac yr oedd yno lechwedd creigiog, coediog, uchel, yn ddarlun o gadernid. Ar y dde yr oedd perllan a choedydd yn codi o gaeau gwyrddion; ar yr aswy gwelwn lethrau creigiog Croesor a'r Cnicht pigfain dieithr. Ac o'm hamgylch yr oedd beddau. Eto, er y gellid clywed su esgyll gwybedyn heb glustfeinio, yr oedd y distawrwydd fel pe'n orlawn o leisiau a'r tawelwch fel pe'n orlawn o fywyd.

Yn y gornel ar y dde, a'r graig yn gysgod iddo, cefais y bedd yr oeddwn wedi dod i chwilio am dano. Symledd a chadernid oedd nodweddion y bedd, carreg las o'r mynydd gerllaw yn gorwedd