Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar gerrig celyd y fro. A dyma'r ysgrif sydd arno, wedi ei cherfio'n eglur a dwfn,—

Yma y gorwedd hyd yr

Adgyfodiad, Gorph

JOHN RICHARD JONES,

wedi treulio yn agos i 34n o flynyddau
yn FUGAIL diwyd, ffyddlon, a
llafurus: i'r EGLWYS gynnulledig
yn y lle hwn; gan ymdrech yn
ddiysgog o blaid yr EFENGYL
hyd ei ddiwedd; a goddef cystydd
am air Duw, a thystiolaeth Iesu, &c.

Gorphenodd ei waith a'i Yrfa
Mehefin y 27n 1822, ei oedran 57.


Pregethwr pur, ac ieithydd; hyd ei farw
Adferwr gwir Grefydd;
Pur ei araeth, Ferorydd,
Un hoff iawn, iach yn y ffydd.

O'r gro pan ddeuo ryw ddydd, gyda'r OEN
Caiff gadw'r wyl dragywydd;
Ail einioes o lawenydd,
A hir saif, i'w aros sydd.


A dyma'r lle hyfryd y gorwedd J. R. Jones o Ramoth ynddo, wedi bywyd ymdrechgar llawn o agor bydoedd newydd y meddwl a thragwyddoldeb o flaen gwerin gwlad. Canmolais ef unwaith wrth yr hwn sydd erbyn heddyw yr enwocaf o'i bobl, a'i enw ledled y byd. Ac atebodd yn chwareus, nid oedd ond llanc y pryd hwnnw,—"Buasai'n well iddo o lawer fynd i Lundain, lle cawsai ei alluoedd chware teg yn lle aros yn y fan yma, i gario mawn ar ei gefn o'r mynydd." Ond gall dyn mawr weithio mewn cylch bychan, ac y mae'n rhaid i rywrai aros yn y wlad. Y mae ffrwyth llafur yr efengylwr diofn a difloesgni, meddylgar