Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac fel yr eir o'r naill garreg las i un arall, o golofn i golofn, ceir yma deulu crefyddol o wŷr a gwragedd o feddwl disgybledig ac o chwaeth bur. Am un bedd yn unig yr holais, bedd newydd oedd wedi ei gau ddoe, bedd y blodau gwylltion, wedi eu casglu gan blant, eto heb wywo arno. Bedd cenhades ieuanc oedd, fu'n cyhoeddi'r efengyl ar Fryniau pell; ond daeth hithau adre i huno. Yr oedd su dyner yn y fynwent, alaw awel wedi ehedeg o'r môr, gan gludo arogl y gwair cynhaeafus a'r gwenith gwyn ar ei hedyn. A disgynnodd rhyw ddedwyddwch tawel dros fôr a mynydd, a thros fy enaid innau. Os mai ystormydd canrifoedd sydd wedi rhoddi ei harddwch i'r fro hon, ysbrydoedd dynion mawr sydd wedi rhoddi eu cadernid hoffus i'r cenedlaethau sy'n gweithio eu dydd, ac yna'n huno, y naill genhedlaeth ar ol y llall.