Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn flaenaf mewn defnyddioldeb, yn eangaf ei chydymdeimlad, ac yn uchaf ei nôd. A'r sain bruddaf ym mywyd Cymru heddyw ydyw'r cwynfan fod yr Ysgol Sul yn colli tir; yr wythnos hon gwelais gŵyn Bedyddwyr sir Gaer ac Anibynwyr sir Feirionnydd, dwy fyddin anodd eu gwangalonni, fod yn rhaid wrth ymdrech galed i gadw rhagfuriau'r Ysgol Sul.

Dull yr Ysgol Sul yw dull perffeithiaf cyfrannu addysg yng Nghymru. Ffurfiwyd yr Ysgol Sul gan ddyhead, angen, ac athrylith cenedl. Nid yw cyfundrefnau o saerniaeth yr addysgwr, o'u cymharu â hi, ond megis addurn pren o'i gymharu â chriafolen y mynydd neu fedwen arian y glyn. Y mae dau gamgymeriad pwysig yn addysg Cymru, Un yw gwneud cyfundrefn addysg heb astudio achosion llwyddiant rhyfedd yr Ysgol Sul. A'r llall yw dwyn i'r Ysgol Sul rai o'r neilltuolion dybid oedd yn achosion llwyddiant peiriannol addysg mewn ysgolion elfennol, megis safonau unffurf ac arholiadau allanol. Ond er pob camgymeriad, heb dreth, heb rodd gan Lywodraeth na miliwnydd, cododd yr Ysgol Sul i effeithiolrwydd sydd heb ei fath yn hanes ein cenedl. Dyma'n dilyn rai o'r nodweddion sy'n dangos fod yr Ysgol Sul, yr ysgol godwyd gan ein cenedl, ar y blaen i ddim addysg drefnwyd eto gan ein haddysgwyr proffesedig.

i.—Yn yr Ysgol Sul y mae addysg yn un, ac nid yn rhannau anghydnaws o un gyfundrefn gymysg ac anghyson. Yn addysg dyddiau'r wythnos rhennir addysg yn addysg elfennol, addysg ganolraddol, ac addysg prifysgol; nid ydyw y rhai hyn yn