Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes dim mor darawiadol hanes Edward Richard yn cau drws Ysgol Ystradmeurig am flwyddyn er mwyn cael cyfle i ddysgu ychwaneg. Byddaf yn meddwl am dano bob tro y gwelaf athraw Ysgol Sul yn troi i'w hen ddosbarth, at draed athraw arall, wedi cyfnod o fod yn athraw ei hun. Toc a'n ol, a'i feddwl yn llawnach a'i ddull yn berffeithiach. Ac felly ymberffeithia'r ysgol.

iv.—Y mae dosbarthiadau'r Ysgol Sul yn ddosbarthiadau bychain. Gall yr athraw ddilyn a gwylio pob meddwl, gall y disgyblion ddod i adnabod ei gilydd yn drylwyr. Tybia ambell athraw y gall ddysgu dosbarth o ddeg ar hugain, ond twyllo ei hun y mae; dirywia'r wers i fod yn bregeth neu ddarlith, a chollir y cymundeb enaid rhwng athraw a disgybl, a rhwng disgybl a disgybl, sydd yn hanfodol i berffeithrwydd addysg. Ac oherwydd bychander y dosbarth, gall fod amrywiaeth diderfyn ynddo. Rhagora un mewn craffter naturiol, un arall mewn dysg, un arall mewn adnabyddiaeth o'r natur ddynol; mae un yn amlwg oherwydd dychymyg, un arall oherwydd callineb; y mae distawrwydd gwylaidd ambell un fel arogl esmwyth yn y dosbarth. Ers rhai blynyddoedd yr wyf fi wedi cael y fraint o fod yn athraw i ddosbarth bychan dymunol o wŷr ieuainc rhwng ugain a deg ar hugain oed, a mwy; ac y mae yr amrywiaeth mewn gallu, barn, a dull yn amlwg. Eto, hoffwn i'r amrywiaeth fod eto'n fwy; dymunais lawer tro am gael dau arall,—un wedi cael anrhydedd dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth mewn coleg, ac un arall heb fedru gair ar lyfr. Y mae amrywiaeth gwybodaeth, amrywiaeth gallu, amrywiaeth