Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y NODYN LLEDDF

CEFAIS fy hun yn ddiweddar yng nghwmni difyr lliaws o Wyddelod ffraeth. Llenorion oedd y rhan fwyaf o honynt,—beirdd, haneswyr, a nofelwyr. Nid oedd a fynnont, hyd y gallwn ddeall, â gwleidyddiaeth o gwbl; yn wir, nid oeddynt yn unol ar ddim mewn gwleidyddiaeth os nad unent yn eu dirmyg o'r aelodau seneddol, yn undebwyr ac yn ymreolwyr. Adroddodd un ohonynt fygythiad Grattan pan rowd terfyn ar Senedd Iwerddon yn 1801,—"Dinistriodd Prydain ein Senedd. Talwn ninnau trwy anfon cant o'n cnafon gwaethaf i fod yn felltith i'w Senedd hi." Dywedais enw un o arweinyddion gwleidyddol y Gwyddelod, a gofynnais a fedrai Wyddeleg. "Na fedr," oedd yr ateb, " a phe gofynnech iddo, teimlai fod y gofyniad yn sarhad arno." "Onid yw'n cynrychioli rhan hollol Wyddelig?" Ydyw, ond nid yw'r werin wedi deffro eto."

Teimlaswn ers tro fod rhywbeth yn eisiau i'm teimlad i yn y cwmni llawen, calon-gynnes, siaradus. Deallais, bob yn ychydig, mai â dosbarth cydmarol gyfoethog y cydymdeimlent; edrychent ar y werin fel dosbarth anwybodus, ofergoelus, di-lenyddiaeth, a'i gwladgarwch wedi gwylltio'n wleidyddiaeth ddall a hunanol. Mewn cwmni Cymreig o lenorion, beth bynnag arall fuasai yno neu ar ol, cymerid un peth yn ganiataol, sef fod gwerin Cymru yn ffyddlon i draddodiadau goreu ein hanes, ac yn nerth i'n gwlad. Amlygais fy