Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trois i feddwl am uchelwyr Cymru. Taflu rhyw fil o bunnau at goleg, ymddangos o flaen y dorf ar lwyfan Eisteddfod unwaith yn y flwyddyn, —nid yw hynny ond rhoddi carreg i un ofynno am fara. Nid arian, nid gweniaith sydd arnom eisiau; yr ydym yn hiraethu am gael teimlo fod calon ein huchelwyr,—aerod estronedig mil o draddodiadau, gyda ni. Pe buaswn uchelwr, ac wedi cael mantais cyfoeth i ymaddysgu ac i ymwareiddio, yr wyf yn credu y gwelswn goron ddisglair o'm blaen,—coron yn llaw gwerin fwyaf meddylgar a serchog hanes. Yn lle hynny, wele ein huchelwyr yn ennyn gwg y genedl garuaidd trwy anwybyddu ei hiaith, dirmygu ei llenyddiaeth, a gwawdio ei diwygiadau.

Y mae "Heart of Midlothian " Syr Walter Scott yn un o'm hoff lyfrau; ond nid y peth pruddaf yn hanes yr enethig Ysgotaidd, hwyrach, sy'n achosi mwyaf o brudd-der i mi. Pan ddaeth Jennie Deans i Lundain i ddadleu am fywyd ei chwaer syrthiedig, aeth at Dduc Argyll, yr enw enwocaf o bob enw i feddwl Ysgotaidd. Ond ni feddyliodd am eiliad fod yn anodd iddi hi, eneth wladaidd, ymddwyn yn briodol yng ngwydd y duc. Onid oedd yn gyd-wladwr iddi, y Mac Callum Mor? A chwestiwn ddaw a phrudd-der i'm meddwl yw,—Pe'r ysgrifennai Cymro hanes rhyw druan yn teithio i Lundain fel Jennie Deans, pwy gai i chware rhan Duc Argyll, pa bendefig, pa esgob, ar hyd hanes Cymru ers tri chan mlynedd? Na, y mae uchelwyr Cymru wedi ymneilltuo mor bell oddiwrth y genedl, mewn teimlad a gofal, fel mai prin y daw'r naill i feddwl y llall erbyn hyn. Faint o gartrefi uchelwyr yng Nghymru, erbyn