Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn, sy'n gartrefi i'r iaith Gymraeg,—lle y caiff llenyddiaeth Cymru nodded? Pa hen gartref urddas a chyfoeth, pa esgobty neu ddeondy, pa goleg neu ysgol y gellir cyfeirio atynt fel lle yr adwaenir ac y croesawir y bardd a'r llenor sy'n coethi ac yn dyrchafu ei wlad? I ba le y gall Cymru werinol droi ei llygaid a dweyd, Oddiacw, o leiaf, cawn gydymdeimlad?

Feallai y cyfyd to o uchelwyr gwell, wyrion a gorwyrion plant y diwygiadau a'r hen ddioddef a'r hen aberthu. Y mae fy nghalon yn cynhesu, ac y mae calon gwerin yn cynhesu, wrth feddwl am ambell un sydd yng Nghymru'n awr,—heb ymestroni oherwydd hud arwynebol defodau dieithr. A daw ychwaneg.

Nid peth i aros yw'r cweryla chwerw ynghylch addysg. Nid peth i bara byth yw ymdrech Llafur a Chyfalaf. O na wrandawem ar lais Gwladgarwch. Rhoddai hi ddoethineb i derfynu'r naill ymdrech, a chydymdeimlad i leddfu'r llall. Pe medrem ymuno i wneud cyfundrefn addysg fagai gariad at Gymru ymysg ei meibion a'i merched o bob gradd, safai Cymru yn urddasol o flaen y byd.