Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ISLWYN A'I FEIRNIAID.

CAFODD Islwyn ddydd ei gyfeillion, a thranoeth ei edmygwyr hiraethlawn yn awr gwawriodd tradwy ei feirniaid. Nid yw beirniadu Islwyn ond y peth ddisgwylid; y peth diddorol yw dyfalu pa fath feirniadaeth fydd. Beth ddywed y bardd newydd-newydd, y newydd danlli, am gawr yr oes o'r blaen? A fydd yn debig i feirniadaeth ysgol Pope neu ddilynwyr Dr. Johnson ar Wordsworth, wedi ei seilio ar ganon ffurfiau neu ar synwyr cyffredin di-farddoniaeth? Ynte a fydd megis Herrick yn codi ei ben o fysg blodau i arswydo wrth gofio am ystormydd aruthr meddyliau Ford a Shakespeare?

Cyhoeddwyd cyfrol fechan o waith Islwyn yn 1867 yn cynnwys darnau digyswllt o'i ddewisiad ei hun. Cynhwysa ar ei wyneb ddalen ddyfyniad o Life Drama Alexander Smith, gŵr oedd a'i enw'n glodus pan oedd Islwyn yn Edinburgh; ond oedd iddo ef megis Falconer i Byron, neu Thomson i Wordsworth. Gwelodd Smith lawer o brydferthwch hynafol Stirling a swyn byth-newydd golygfeydd Skye; creodd Islwyn fyd newydd, a'i brydferthwch wedi ei ysbrydoli. Y mae byd anianol, ac y mae byd ysbrydol. Gellir gwisgo'r byd anianol â swyn rhyfedd, gwnawd hynny gan lawer Groegwr yng ngwydd ei fryniau digymylau, a chan lawer Cymro mewn gwlad lle tynerir agwedd ei chreigiau gan niwl esmwyth a thyner. Y mae'r bardd anianol yn eithaf tra'n darlunio ei fyd ei hun. Ond tragedy beirniadaeth ydyw darluniad gan y bardd anianol o fyd y bardd ysbrydol, meddwl