Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr efelychwr yn ceisio amgyffred y meddwl sy'n creu. Nis gwn am un gair Cymraeg yn rhoddi holl gynnwys y gair Saesneg benthyg tragedy, ond gwn fod enaid Cymru'n llawn o'r syniad. Ceir y trychineb di-enw hwn yn llenyddiaeth Lloegr yn y ddeunawfed ganrif. Credid fod cewri oes aur Elizabeth wedi darganfod hynny o wirionedd barddonol oedd yn bod, ac mai gwaith yr oes newydd oedd cywiro, llyfnhau, caboli, gloywi; oherwydd, ysywaeth, ni fedrai'r rhai gynt yr iaith Saesneg fel y dylid ei medru. A dacw Pope yn ystwytho Shakespeare, a Dryden yn odli Milton. Ac yng ngwydd byd bodlon a difraw, diweddodd y ddrama mewn geiriadur. Ac nid dyna'r unig drychineb hyd yn oed yn yr un ganrif. Daeth Ysgotyn o'r enw Hume i gondemnio meddwl y trwswyr a'r taclwyr; i'w ddirmygu, ac i'w ddistrywio; ac ar ei adfeilion cododd Wesley a Coleridge a Wordsworth fyd newydd rhyfedd. Ond cafodd yntau ei feirniaid. Safasant, rai ohonynt hyd heddyw, ar fryn yr anianol i edrych ar y byd ysbrydol agoresid i'r byd. Byd ysbrydol yw byd Islwyn; beth, tybed, wêl y beirniad ynddo, o fyd yr anianol, lle mae'r llygad o gnawd mor fyw a chlust o gnawd mor deneu i swynion y byd naturiol?

Os bernir Islwyn wrth dameidiau o'r fan yma a'r fan acw, bernir ef yn anianol, ac ni ddeallir ef. Os tybia'r beirniad fod y darn yma'n berffaith, a'r darn nesaf yn anfarddonol, nid yw'r llinyn mesur priodol yn eiddo iddo. I'w weld yn iawn, rhaid cymeryd Islwyn yn yr oll ag ydyw, yn ei fyd ei hun, a than y goleu sy'n dangos ei fyd yn ei ysbrydolrwydd newydd grëedig.