Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid oes ond ychydig o feddylwyr y byd a'u holl waith creadigol yn un cyfanwaith mawr o amgylch eu personoliaeth, yn beth ellir adnabod wrth arlliw digamsyniol eu henaid, arlliw, o'i weled a dry eu sorod, neu beth ystyrrid yn sorod, yn aur disglair. Y mae Islwyn ymysg y rhain. A oes rhyw Gymro arall? Gall beirniad craff ameu, oddiar brofion negyddol pwysig, mai Dafydd ab Gwilym anfonodd yr haf i Forgannwg. Ie, amheuir ai Shakespeare wnaeth i'r gŵr hwnnw gnocio ganolnos ym munudau mwyaf echryslawn drama Macbeth. Os tynnir Islwyn o'r byd a greodd, ni ellir ei amgyffred; os gwelir ef yn ei fyd ei hun, gwelir ef ym mhopeth a wnaeth mwy.

Os ceir beirniad yn rhannu byd Islwyn yn aur a sorod, er anfated yw'r gwaith, y mae peth o'r bai ar Islwyn ei hun.

Yn un peth, er fod y byd a greai yn un yn ei feddwl ef, eto bob yn ddarn y rhoddodd ffurf weladwy iddo. Adeiladodd yn brysur, ond ni chafodd fyw i roddi i'w feddyliau ysgrifenedig y cynllun a'r drefn fuasai yn dangos ei holl greadigaeth yn amlwg i'r hwn a red. Storm mewn goleuni ysbrydol, goleuni rhy wirioneddol i fedru tywynnu erioed ar dir a môr, oedd ei fyd ef. Y mae absenoldeb y cynllun yn esbonio methiant y beirniad anianol i weled byd Islwyn, ond nid yw yn ei esgusodi.

Peth arall, bu Islwyn ei hun hwyrach, a'i olygwyr wedyn yn sicr, yn anffodus oherwydd rhoi'r farddoniaeth yn ddarnau trwy'r wasg. Dechreuodd drwy wneud hynny ei hun. Pan gyhoeddwyd ei gyfrol fechan yn 1867, gwelodd y Cymry ar unwaith fod bardd mawr yn eu mysg. Gwelodd lawer yn weddol glir y newydd-deb creadigol