Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os tybia rhywun y medr farnu Islwyn trwy dderbyn rhannau o'i waith fel gwaith rhyw Islwyn mawr a rhannau eraill fel darnau o waith rhyw Islwyn bach, y mae wedi colli llwybr beirniadaeth. Rhaid deall ac esbonio'r cwbl. Rhaid cymeryd pob meddyliwr mawr yn yr oll ag ydyw, a'i waith fel un cread, yn hannu o bersonoliaeth fyw.

I'w deall yn iawn rhaid edrych ar un o ddarluniau Rubens neu Murillo fel cyfanwaith, y mae pob lliw yn rhoi rhyw olud i'r holl liwiau eraill, a phob wyneb yn esbonio'r wynebau eraill. Ond cymerer y darlun bob yn ddarn, ac y mae'r gogoniant adlewyrchir arno gan y darnau eraill yn colli. Ar ol yr arlunwyr hyn daeth arlunwyr is-Ellmynaidd na ddanghosai eu darluniau un gallu creadigol, ond yr oedd y rhannau'n berffaith. Os edrychwch ar bob dilledyn, pob ffrwyth, pob pryf, y maent oll yn berffaith; y mae'r manylder ffyddlawn i efelychu natur bron yn wyrthiol. Meddylier am un o'r brodyr lleiaf hyn yn sefyll o flaen un o ddarluniau Titian neu Velasquez. Ebe un,—" Nid yw'r cyfoeth o liwiau yn y darlun yn naturiol. Ond a welwch chwi blygion dillad y milwr acw? Y maent mor gywir a phe bai'r arlunydd wedi bod yn deiliwr ar hyd ei oes." Ac atebai'r llall, "Ie, ac a welwch chwi'r bluen acw yn aden y mymryn angel bach yn y gornel? Mae mor gywir a phe bai'r arlunydd wedi treulio ei fywyd i fagu ffowls." Ac ebai'r ddau,-"Diolch am ambell em fedrwn ddeall mewn darlun mor fawr."

Ni ellir deall Islwyn trwy edrych ar un cwmwl gwlanog yn ei ddydd, neu wrth wrando ar un sydyn waedd gwynt yn ei nos. Rhaid edrych ar ei fyd i gyd, dan ei ddiluw o oleuni ysbrydol.