Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FFARWEL I'R MYNYDDOEDD

NIS gwn am ddim rydd fwy o nerth i ddyn i wneud ei waith nag aros mis yn y mynyddoedd. Os nad oes ganddo fis rhaid boddloni ar wythnos; os nad oes ganddo wythnos, y mae un diwrnod yn y mynyddoedd yn werth gwneud llawer o aberth i'w gael.

Y mae bywyd yn fwy pryderus, yn fwy cyffrous, ac yn fwy llafurus nag y bu erioed o'r blaen. Rhaid i bawb weithio yn awr, nid oes le i'r segurddyn; ac os yw oriau gwaith yn fyrrach, y maent oherwydd hynny yn galetach. Y mae'r bywyd llonydd a hamddenol a fagai athronwyr yn diflannu o'r byd; cywilydd, ac nid anrhydedd sydd i'r hwn fedr fod heb waith, ac a fedr fod yn foddlon heb waith. Nid bywyd hir, ond bywyd llawn yw bywyd y dydd hwn.

Ychydig yn awr fedr fyw mewn unigedd, ymhell o sŵn y boen sydd yn y byd. Y mae dibyniaeth cynhyddol dynion ar ei gilydd yn gwneud iddynt gyd-ddioddef. Nid ysgarmes bell, i feirdd ddweyd am dani flynyddoedd wedyn, ydyw rhyfel[1] erbyn hyn y mae'r ing i'w deimlo yng nghilfachau Eryri neu ar lannau Oregon fel y mae ym mhentrefydd difrodedig Ffrainc. Pan fo gweithydd glo y Deheudir yn segur oherwydd fod cyfalaf a llafur yn camddeall ei gilydd, nid gwŷr cyfalaf na gwŷr

llafur deimla'r wasgfa gyntaf, ond cartrefi pell

  1. Y Rhyfel Mawr 1914-1918.