Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn ddiameu y mae'r byd pryderus yn troi at Dduw yn y dyddiau hyn, nid dyn yma a dyn acw, ond dynion yn dyrfaoedd ac yn genhedloedd. Nid dychweliad yr afradloniaid unig yw nodwedd yr oes, ond cymdeithas yn dwyseiddio ac yn troi ei hwyneb at Haul Cyfiawnder. Y mae cynnydd ein ffydd yn Nuw a chynnydd cariad pob un o honom oll tuag at ein gilydd yn hanfodol at ddeall a setlo y cwestiynau cymdeithasol sydd o'n blaenau, os nad ydym i syrthio i anhrefn a chasineb a llofruddiaeth y Chwyldroad Ffrengig neu'r Chwyldroad Rwsiaidd wrth geisio ymwthio trwy'r nos tua'r dydd. Un o arwyddion mwyaf gobeithiol yr oes yw ei pharodrwydd i aberthu dros eraill, a'r crefyddolder cynhyddol sy'n gwneud ei gwelediad yn glirach a'i chamrau'n fwy sicr. Dyma angor.

Yn y blynyddoedd pryderus diweddaf hyn, y mae'r hiraeth am y mynydd a'r môr wedi bod yn gryfach nag erioed, ac y mae'r ymgynnull iddynt yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd. Fel y mae anghenion y cartref a phroblemau cymdeithas yn dod yn fwy gwasgedig a dyrys, y mae eangderau tawel y mynydd a'r môr yn dod yn fwy croesawgar. Dyna le i ddianc o bryder; dyna le i wella wedi briw. Sudda'r tawelwch yn gryfder i'r enaid, y mae'r awel oddiar y grug melys neu'r môr heli fel anadl einioes. A phan ffarwelir â'r mynydd, a throi'n ol i'r dref boblog, i'r fasnach ansicr ac i'r byd cynhyrfus, erys golygfeydd y mynydd yn y meddwl, gellir dianc iddynt mewn atgof pan fo'r amgylchiadau'n gwasgu a'r pryder yn llethu. Teimlir drachefn yr awel oddiar y gwaendiroedd neu oddiar y môr, a meddyginiaeth ar ei hesgyll; gwelir drachefn y copâu, y nefoedd,