Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r cefnfor a'u tragwyddol heolydd. A theimla dyn na fedr neb gyfyngu ei feddwl, sylweddola ei ryddid, a cha'r cryfder enaid a'i ceidw yn ddiysgog lle gynt yr ofnai gynhyrfiadau dydd ac awr. Y mae gwlad fynyddig yn Eryri y mae llai o gyrchu iddi, hwyrach, nag i'r Wyddfa ar un ochr ac nag i Garnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn ar yr ochr arall. Rhyngddi a'r Wyddfa y mae dyffryn cul Llanberis a llynnoedd Peris a Phadarn; rhyngddi a'r ddwy Garnedd y mae'r dyffryn rhamantus arall dorrodd yr Ogwen yn ffordd iddi ei hun, a Bethesda ar ei glan; a rhyngddi a Moel Siabod i'r dwyrain y mae Nant y Gwrhyd a Llyn Mymbyr. O fewn y cymoedd hyn y mae tyrfa ardderchog o fynyddoedd yn sefyll yn gadarn ac urddasol. O'r Fronllwyd tua'r de ddwyrain ceir hwy, Carnedd y Filiast a'r ddwy Elidir, y Foel Goch a'r Garn a'r ddwy Glyder,—beth yn is na'u cymdogion o bobtu mewn troedfeddi, ond yn codi i'r cymylau mor frenhinol a hwythau, neu'n gorwedd mor fawreddog ar ddyddiau digwmwl y tes. I'r mynyddoedd hyn deuthum, bererin egwan dan ei bwn, ddechre Gorffennaf eleni. Disgynnodd tawelwch Llanberis garedig a chroesawgar ar fy ysbryd blin a lluddedig, suodd sŵn hyfryd ei rhaeadrau fi i gysgu, a gwahoddodd ei mynyddoedd fi i fyny fry i dawelwch tangnefeddus yr uchelderau. Dros bedwar ugain mlynedd yn ol daeth Clwydfardd drwy'r fro, clywodd y rhaeadrau, ac ebai ef,—

"Rheieidr ar reisidr, dyruant,—a'u sŵn
Adseinia trwy'r wylltnant ;
Cynnwrf sydd yn mhob ceunant;
Bron na ffy pob bryn a phant.