Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trystiaw a ffriaw'n dra ffroch—a chwyrnu
Wna'i chornant uchelgroch;
Twrw o hagrgri tra egr—groch;
Twrw'n y graig fel taran groch."

Digiodd Gutyn Peris wrth Glwydfardd am ddynwared sŵn rhaeadrau ei fro mor gras a hyn a rhoddodd su yn lle rhoch iddynt,—

"Un rhaiadr mawr sydd yn rhuo—o fewn
Y faenol gled honno;
A naws awel yn sio
Mewn ffrydiau hyd fryniau'r íro.

"A sain a styb eu si,—ar elltydd
Y mynydd o'r meini;
Ail cydgor yn perori,
Sain creigiau a lleisiau tti."

Ar fy nghlyw diamynedd i, graddol drodd yr hagrgri egr—groch yn naws awel yn sio. A chlywaf fas dwndwr y dyfroedd a brefiadau'r defaid mewn atgof, yn hyfryd foddi lleisiau llafur a rhyfel, hyd yr awr hon.

Cerddais i ddechre hyd odre'r mynyddoedd, i dalu'm gwarogaeth iddynt. Cerddais dros Fryn'r Efail at lan y Galedffrwd loyw, a dilynais hi heibio i Glwt y Bont ac Ebenezer hyd y gwaendir mynyddig maith sy'n mynd uwchlaw Llyn y Mynydd, ac yna i Fethesda. Ffrwd fwyn yw Caled ffrwd; ac er na welais hi erioed o'r blaen, yr oedd blodau ei glannau ac enwau ei chartrefi yn ei gwneud mor hoff i mi ag afonydd Dyfrdwy. Gwlad ryfedd yw y wlad, gwlad o greigiau a blodau, gwlad a'r mynyddoedd a'r môr yn gwahodd ac yn denu, gwlad o dai bychain a chapelydd mawrion, gwlad o ffermydd nad ydynt ond ychydig gaeau rhwng talpiau craig, a gwlad yn dibynnu ar un chwarel