Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anferthol. Synnwn fod ardaloedd mor enwog mor agos i'w gilydd; ac ni chlywn enw ardal na ddeuai a rhyw fardd neu bregethwr i'm meddwl, llawer o honynt yn gyd-efrydwyr a mi flynyddau meithion yn ol, ac wedi llenwi gobeithion maboed i'r ymylon. Ac wrth edrych ar y wlad, nid rhyfedd ei bod yn fagwrfai athrylith. Wrth deithio i fyny at Ebenezer ymwasgai'r tai yn fwy at ei gilydd, nes bod yn bentrefydd. Yr oedd y tai yn lân fel yr aur. Ond ar ddiwrnod poeth, yr oedd y ffenestri i gyd yng nghau. Gofynnais i chwarelwr mwyn beth oedd y rheswm am hyn, ac atebodd gyda direidi yng nghil ei lygad," Y mae llawer iawn o bobol ddieithr yn dod ffordd hyn, welwch chwi, rhaid i ni fod yn bur ofalus beth a wnawn a'n ffenestri."

Wedi esgyn o'r caeau i'r mynydd yr oedd y gog yn canu dros y wlad, er ei bod wedi cilio o'r ardaloedd eraill. Hyfryd iawn oedd y gweunydd unig, eu byrwellt a'u gruglys. A mwyn oedd y golygfeydd ymagorai o'm blaen, hafnau mynyddig y Marchlynnoedd, porfeydd defaid maith Cwm Llafar ac Afon Caseg, a'r môr yn disgleirio ar Draeth y Lafan, yn ol fel y trown fy ngolwg. Yn lle disgyn yn ol yr un ffordd cerddais hyd lethr y bryniau, gan gadw ar ochrau Elidir. Odditanaf yr oedd gwlad lawn o bobl, a phawb wrthi yn y caeau gwair. Ar y ffordd, oedd fel rhodfa ffasiynol, yr oedd lluoedd o chwarelwyr a'u teuluoedd ym min hyfryd yr hwyr, yn gwylio ac yn beirniadu y cweirwyr gwair odditanynt. Cerddais trwy Waen Gynfi, hyd y ffordd uchel ac i Ddinorwig. Erbyn hyn yr oedd yn dechre nosi, ac arogl hyfryd y gwair yn llenwi'r awel hwyrol falmaidd. Troais yn ol i edrych ar lethrau Elidir, a thybiais na