Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PRIFYSGOL Y GWEITHWYR

NID yw yr amser wedi dod eto i ysgrifennu hanes sefydlu Prifysgol Cymru. Pan ddaw, ceir goleu diddorol ar ymdrechion llawer un dros addysg ein gwlad, megis Gladstone a Iarll Rosebery, ac yn enwedig Arthur D. Acland a Thomas E. Ellis.

Nid oedd y Brifysgol, yn y ffurf roddwyd iddi, wrth fodd pawb; yr oedd llawer o'r Cymry mwyaf cenedlgarol yn dymuno i'w chylch fod yn eangach, a'i hysbryd mewn cyffyrddiad amlach ac agosach â'r werin. Erbyn hyn y mae'n hyfryd meddwl fod y Brifysgol yn hollol genedlaethol, ni all neb ddweyd fod lliw plaid na sect arni, ac y mae'r amrywiaeth sy'n hanfodol i Brifysgol yn ei bywyd. Ond ni phroffwydid hyn gan bawb ar y dechre, a mynnent sicrhau o fewn cylch ei bywyd agweddau ar addysg ystyrient hwy yn rhan o fod Prifysgol berffaith.

Erbyn hyn y mae'n bosibl ymdrin â'r agweddau hynny heb beri tramgwydd i neb. Ac eithaf peth fyddai rhoi grym defnyddiol a pharhaol i ambell ddathlu gwyl Dewi trwy ymdrin â hwy yn yr ysbryd brawdol caredig sy'n nodweddu'r dydd hwn. Galwaf sylw fy nghydwladwyr at un agwedd arbennig, ac at un yn unig.

Beth yw'r berthynas rhwng Prifysgol Cymru â gweithwyr Cymru? Addef pawb fod y Brifysgol yn brifysgol y werin; er, hyd yn hyn, mai prin yw'r ddarpariaeth at gynorthwyo plant ysgol