Tudalen:Er Mwyn Cymru.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae rhai o'r dosbarthiadau hyn o amgylch y Wyddfa, —yn Llanberis, a Phen y Groes, a Bethesda, a Blaenau Ffestiniog. Mae rhai eraill yng nghanolbarth Cymru, yn Abermaw a Thowyn ac Aber— ystwyth, yn Abergynolwyn ac Aberllefeni. Ceir rhai ym Morgannwg, yn yr hen Lanilltyd Fawr a Phenybont ar Ogwr, yn y Barri a Chaerdydd, yn Abertridwr a Phenrhiwceibr,—ar y Fro ac yn y Bryniau. Ceir hwy yng Ngwent,—yn Abertileri a Bedwas, yn Rhymni a Bedwellty, yn y Coed Duon a Mynydd Islwyn.

Nid yw hyn ond dechre. Daw yr amser pan fydd dosbarth ymhob pentref. Bydd nifer o bobl ieuainc, rhai wedi gadael yr ysgol ac yn gwneud gwaith eu bywyd, yn cyfarfod ei gilydd, nid i wag ymblesera trwy edrych ar ddarluniau hud sy'n dinistrio eu chwaeth ac yn gwneud eu meddwl yn llibyn, ond i awchu min eu meddwl, ac i gael y pleser rhyfeddol geir wrth godi i fryniau uwch a gweled cyfandiroedd newydd ymherodraeth eu meddwl. A phan geir gwlad â'i phobl ieuainc wedi eu disgyblu fel hyn, pa wlad mor hapus a hi? Pob clod i'r rhai ddarparodd "ysgol" i'r ieuanc athrylithgar ddringo, er mai dringo oddiwrth ei wlad a'i werin wna yn ddigon aml. Ond dyma ddarpariaeth ar gyfer y rhai sy'n aros yn eu hardaloedd; a thrwyddi hi caiff yr ardaloedd hynny arweinwyr meddylgar a diogel. Byddai gynt, drwy bob rhan o Gymru, dywysogion fedrai ymhyfrydu yn arddull gain a swyn dieithr y Mabinogion. A bydd uchelwyr meddwl Cymru, blodau ei gweithwyr, arweinwyr ei bywyd ymhob cwm prydferth a thref boblog ynddi, wedi eu trwytho âg ysbryd eang, addfwyn, a gostyngedig